Neidio i'r cynnwys

West Bromwich Albion F.C.

Oddi ar Wicipedia
West Bromwich Albion
Enw llawn West Bromwich Albion
Football Club

(Clwb Pêl-droed
West Bromwich Albion).
Llysenw(au) Albion
The Baggies
The Throstles
West Brom
Sefydlwyd 1878 (fel West Bromwich Strollers)
Maes The Hawthorns
Cadeirydd Baner UDA Shilen Patel
Rheolwr Baner Sbaen Carlos Corberán
Gwefan [wba.co.uk Gwefan y clwb]

Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw West Bromwich Albion Football Club ac maenr yn cystadlu yn ail haen Lloegr, yr EFL Championship. Lleolir y clwb yn West Bromwich, yng nghanolbarth Lloegr. Caiff y clwb ei adnabod fel West Brom, Y Baggies, Albion, Yr Albion, Y Throstles neu'r WBA. Ffurfiwyd y clwb ym 1878 gan weithwyr o Weithfeydd Spring Salter yng Ngorllewin Bromwich ac maent wedi chwarae eu gemau cartref yn yr Hawthorns ers 1900.

West Bromwich Albion oedd un o sefydlwyr y Gynghrair Bêl-droed yn 1888 ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bodolaeth yn adran uchaf pêl-droed Lloegr. Maent wedi bod yn bencampwyr Lloegr unwaith, yn 1919-20, ond maent wedi cael mwy o lwyddiant yng Nghwpan yr FA, yn ei hennill pum gwaith. Dyma nhw hefyd yn ennill Cwpan y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf yn 1966. Tymor 2011-12 fydd eu chweched tymor yn yr Uwch Gynghrair ers 2002.

Mae cystadlu brwd rhwng Albion a nifer o glybiau eraill o ganolbarth Lloegr. Eu gwrthwynebwyr traddodiadol yw Aston Villa, ond yn fwy diweddar mae eu prif ymryson wedi bod gyda Wolverhampton Wanderers - eu prif wrthwynebwyr yn gêm darbi yn Black Country.

Cafodd y clwb ei sefydlu fel West Bromwich Strollers ym 1878 gan weithwyr o George Salter's Spring Works yng Ngorllewin Bromwich, ar y pryd yn Sir Stafford, ond sydd bellach yn rhan o sir weinyddol Orllewin Canolbarth Lloegr. Cawsant eu hailenwi'n West Bromwich Albion ym 1880, y tîm cyntaf i fabwysiadu'r dodiad Albion. Roedd Albion yn ardal o West Bromwich lle oedd rhai o'r chwaraewyr yn byw neu'n gweithio, yn agos at yr hyn sydd heddiw yn Greets Green.