Brenhinllin Han
Gwedd
Math o gyfrwng | Chinese dynasty, gwladwriaeth hanesyddol Tsieina, cyfnod o hanes, gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 220 |
Label brodorol | 漢朝 |
Poblogaeth | 59,594,978, 56,486,856 |
Rhan o | Qin Han, Early Imperial China |
Dechrau/Sefydlu | 206 CC |
Olynwyd gan | Cao Wei, Shu Han, Eastern Wu |
Yn cynnwys | Western Han, Brenhinlin Gorllewin Han |
Rhagflaenydd | Brenhinllin Qin |
Enw brodorol | 漢朝 |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Tsieina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod yn hanes Tsieina oedd Brenhinllin Han (Tsineëg Syml: 汉朝; Tsineëg Traddidiadol: 漢朝), o 206 CC hyd 220 OC. Ystyrir y cyfnod yma yn un o uchafbwyntiau hanes Tsieina, pan ymestynwyd yr ymerodraeth i gynnwys Corea, Fietnam a Chanolbarth Asia.
Sefydlwyd y frenhinllin gan Liu Bang, a ddaeth i'r orsedd yn 202 CC fel yr Ymerawdwr Gaozu o Han wedi iddo orchfygu Xiang Yu o'r Chu Gorllewinol ym Mrwydr Gaixia. Brenhinllin Han oedd y frenhinllin gyntaf i'w seilio ei hun ar athroniaeth Conffiwsiaeth; dewisodd yr Ymerawdwr Wu Gonffiwsiaeth fel yr athroniaeth oedd i lywodraethu'r wladwriaeth.
O'r frenhinllin yma y mae grŵp ethnig mwyaf Tsieina, Tsineaid Han, yn cymryd ei enw.
Cyfnodau hanes Tsieina | |
---|---|
Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |