Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
Gwedd
Swydd fygedol heb ddyletswyddau ffurfiol yw Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig. Serch hynny, bydd y bardd fel arfer yn cyfansoddi cerddi ar gyfer achlysuron cenedlaethol pwysig. Penodir y Bardd Llawryfog gan y Brenin neu'r Frenhines yn ôl cyngor y Prif Weinidog.
Mae'r swydd yn dyddio'n ôl i 1668 pan roddodd Siarl II warant frenhinol i John Dryden. Y swyddog presennol yw Simon Armitage.
Beirdd Llawryfog
[golygu | golygu cod]Bardd Llawryfog | Portread | Genedigaeth a Marwolaeth | Cyfnod gwasanaeth | Penodwyd gan |
---|---|---|---|---|
John Dryden | 1631–1700 | 13 Ebrill 1668 – Ionawr 1688[1] | Siarl II | |
Thomas Shadwell | c. 1640–1692 | 9 Mawrth 1689 – 19 neu 20 Tachwedd 1692 | Wiliam III a Mari II | |
Nahum Tate | 1652–1715 | 23 Rhagfyr 1692 – 30 Gorffennaf 1715 | Wiliam III a Mari II | |
Nicholas Rowe | 1674–1718 | 1 Awst 1715 – 6 Rhagfyr 1718 | Siôr I | |
Laurence Eusden | 1688–1730 | 10 Rhagfyr 1718 – 27 Medi 1730 | Siôr I | |
Colley Cibber | 1671–1757 | 3 Rhagfyr 1730 – 12 Rhagfyr 1757 | Siôr II | |
William Whitehead | 1715–1785 | 19 Rhagfyr 1757[2] – 14 Ebrill 1785 | Siôr II | |
Thomas Warton | 1728–1790 | 20 Ebrill 1785 – 21 Mai 1790 | Siôr III | |
Henry James Pye | 1745–1813 | 28 Gorffennaf 1790 – 11 Awst 1813 | Siôr III | |
Robert Southey | 1774–1843 | 12 Awst 1813[3] – 21 Mawrth 1843 | Siôr III | |
William Wordsworth | 1770–1850 | 6 Ebrill 1843 – 23 Ebrill 1850 | Victoria | |
Alfred, Arglwydd Tennyson | 1809–1892 | 19 Tachwedd 1850[4] – 6 Hydref 1892 | Victoria | |
Alfred Austin | 1835–1913 | 1 Ionawr 1896 – 2 Mehefin 1913 | Victoria | |
Robert Bridges | 1844–1930 | 25 Gorffennaf 1913 – 21 Ebrill 1930 | Siôr V | |
John Masefield | 1878–1967 | 9 Mai 1930 – 12 Mai 1967 | Siôr V | |
Cecil Day-Lewis | 1904–1972 | 2 Ionawr 1968 – 22 Mai 1972 | Elisabeth II | |
John Betjeman | 1906–1984 | 20 Hydref 1972 – 19 Mai 1984 | Elisabeth II | |
Ted Hughes | 1930–1998 | 28 Rhagfyr 1984 – 28 Hydref 1998 | Elisabeth II | |
Andrew Motion | 1952– | 19 Mai 1999 – Mai 2009 | Elisabeth II | |
Carol Ann Duffy | 1955– | 1 Mai 2009 – Mai 2019 | Elisabeth II | |
Simon Armitage | 1962– | 10 Mai 2019 | Elisabeth II |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A ôl y Chwyldro Gogoneddus o 1688 gwrthododd Dryden gymryd y llw teyrngarwch i Wiliam a Mari, a collodd ei swydd.
- ↑ Ar ôl gwrhododd Thomas Gray y swydd.
- ↑ Ar ôl gwrhododd Walter Scott y swydd.
- ↑ Ar ôl gwrhododd Samuel Rogers y swydd.