Y ffin rhwng Belarws ac Wcráin
Croesfan Senkovka yn Oblast Chernihiv, Wcráin, ger y fan driphlyg â Belarws a Rwsia. | |
Math | ffin, ffin ar dir, ffin rhyngwladol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | borders of Belarus, State Border of Ukraine |
Gwlad | Belarws Wcráin |
Cyfesurynnau | 51.5°N 23.63°E, 52.12°N 31.78°E |
Hyd | 891 cilometr |
Mae'r ffin rhwng Belarws ac Wcráin yn ymestyn rhyw 1,084 km (674 mi) o'r fan driphlyg â Gwlad Pwyl yn y gorllewin i'r fan driphlyg â Ffederasiwn Rwsia yn y dwyrain. Rhed y goror drwy ranbarth Polesia, ac i'r gogledd mae oblastau Brest a Gomel ym Melarws ac i'r de mae oblastau Volyn, Rivne, Zhytomyr, Kyiv, a Chernihiv yn Wcráin.
Yn y gorllewin, mae'r ffin yn cychwyn o Afon Bug, sydd yn ffurfio rhan o'r gororau rhwng y ddwy wlad a Gwlad Pwyl. Oddi yno mae'n troelli i ogledd ardal Llynnoedd Shatsk ac yn croesi Afon Pripyat cyn ymestyn drwy Gorsydd Pinsk, un o'r gwlyptiroedd mwyaf yn Ewrop, am y rhan fwyaf o'i hyd. Mae'n croesi Afon Pripyat eto rhyw 20 km (12 mi) i ogledd-orllewin dinas Chornobyl, Wcráin, ac yna'n dilyn cwrs gogleddol i fyny Afon Dnieper nes iddi groesi ffordd yr E5, ac estyn eto i'r dwyrain hyd at y groesfan rhwng ffordd y P124 ym Melarws a'r P13 yn Wcráin.
Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn Chwefror 2022, cyhuddwyd Belarws gan lywodraeth Wcráin a chynghrair NATO o ganiatáu i luoedd Rwsia ymgynnull ar hyd y ffin ac oddi yno i lansio cyrchoedd ar diriogaeth Wcráin.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Victor Mallet ac Henry Foy, "Nato alarmed by Belarus role in Ukraine assault", Financial Times (25 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Chwefror 2022.