Valentina Tereshkova
Valentina Tereshkova | |
---|---|
Ffugenw | Чайка, Valentina |
Ganwyd | Валентина Владимировна Терешкова 6 Mawrth 1937 Bolshoye Maslennikovo |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Rwsia |
Addysg | Ymgeisydd Gwyddorau Technegol |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gofodwr, gwleidydd, person milwrol, peiriannydd, hedfanwr, academydd, Aelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia, swyddog milwrol |
Swydd | Aelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, member of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, people's deputy of union of socialist soviet republics |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Rwsia Unedig, Our Home – Russia, Russian Party of Life |
Priod | Andriyan Nikolayev, Yuliy Shaposhnikov |
Gwobr/au | Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Karl Marx, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd Bernardo O'Higgins, Urdd yr Haul, Urdd Alexander Nevsky (Rwsia), Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Anrhydedd, Urdd Cyfeillgarwch, Urdd Georgi Dimitrov, Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Urdd Klement Gottwald, Order of Sukhbaatar, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Medal "For the Development of Virgin Lands, Medal Llafur y Cynfilwyr, Medal Aur o Gyflawniadau Economaidd (VDNKh), Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Medal "Veteran of the Armed Forces of the USSR, Urdd "Am Wasanaeth Teilwng dros y Famwlad" Dosbarth 1af, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, honorary citizen of Vitebsk, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Medal "For Impeccable Service", 2nd class, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Order of Gagarin, Hero of Socialist Labour of Czechoslovakia, Arwr Llafur Sosialaidd, Hero of Labour, Order of Tri Shakti Patta, Seren Gweriniaeth Indonesia, Order of the Volta, Urdd Baner Gweriniaeth Hwngari, Орден Культуры (Аfghanistan), Order of the Star of Jordan, Order of Civil Merit (Syria), Order of the Nile, Order of the Yugoslav Flag, Scientific Merit Order, Urdd Playa Girón, Q4335908, Order of the Star of Ethiopia, Order of Duke Branimir, Q2348481, International Space Hall of Fame, Stolypin Medal, 2nd class, Yuri A. Gagarin Prize of the Government of the Russian Federation in the field of space activities, Tystysgrif er Anrhydedd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Russian Federation Presidential Certificate of Gratitude, Tystysgrif Teilyngdod Ffederasiwn Rwsia, Commendation of the Government of Russia, Medal i'r Cyfranogwr o'r ymgyrch milwrol yn Syria, Medal "For Strengthening of Brotherhood in Arms", Q97344254, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, gradd er anrhydedd |
llofnod | |
Valentina Vladimirovna Tereshkova (Rwseg: Валенти́на Влади́мировна Терешко́ва; ganed 6 Mawrth 1937) yw'r ddynes gyntaf a'r sifiliad cyntaf i deithio i'r gofod. Erbyn heddiw mae'r ofodwraig hon, un o cosmonauts enwocaf yr Undeb Sofietaidd, wedi ymddeol. Wedi'i thath i'r gofod bu'n beiriannydd ac yn wleidydd. Cafodd ei gwneud yn Arwr yr Undeb Sofietaidd, anrhydedd uchaf ei gwlad.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Oblast Yaroslavl, treuliodd ei phlentyndod ar fferm ei theulu. Cafodd ei dethol allan o dros bedwar cant ymgeisydd i beilotio'r cerbyd gofod Vostok 6 ar 16 Mehefin 1963 gan ennill ei lle mewn hanes fel yr ofodwraig a'r sifiliad cyntaf. Treuliodd dridiau yn y gofod lle gwnaeth sawl arbrawf gwyddonol er mwyn casglu data ar berfformiad y corff dynol benywaidd yn y gofod.[1][2]
Cyn cael ei recriwtio i fod yn kosmonaut, bu Tereshkova yn weithiwr mewn ffatri ac yn barasiwtydd amatur. Roedd hi'n rhan o grŵp o ofodwyr benywaidd yn rhaglen ofod yr Undeb Sofietaidd ac yn beilot a major-general yn Llu Awyr yr Undeb Sofietaidd.
Ar ôl 1969, pan ddaeth ei gyrfa fel kosmonaut i ben, daeth yn aelod gweithgar o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, gan ddal sawl swydd wleidyddol. Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd ymddeolodd o fywyd gwleidyddol cyhoeddus.[3]
Gweithgaredd cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Yn 2011, cafodd ei hethol i Dwma Talaith Rwsia o blaid Rwsia Unedig ar restr ranbarthol Yaroslavl. Mae Tereshkova, ynghyd ag Elena Mizulina, Irina Yarovaya ac Andrey Skoch, yn aelod o grŵp dirprwy rhyng-ffasiwn ar gyfer amddiffyn gwerthoedd Cristnogol; yn rhinwedd y swydd hon, cefnogodd gyflwyno diwygiadau i Gyfansoddiad Rwsia, ac yn ôl hynny, "Uniongrededd yw sail hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol Rwsia." Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Dwma'r Wladwriaeth ar Strwythur Ffederal a Hunan-Lywodraeth Leol ers 21 Rhagfyr 2011.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.rt.com/news/379550-tereshkova-facts-80-anniversary
- ↑ https://www.theguardian.com/global-development-professionals-network/2017/mar/29/valentina-tereshkova-first-woman-in-space-people-waste-money-on-wars
- ↑ "Valentina Vladimirovna Tereshkova". Yaroslavl Region. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.