The Doors
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | band roc |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Label recordio | Elektra Records |
Dod i'r brig | 1965 |
Dod i ben | 2013 |
Dechrau/Sefydlu | 1965 |
Genre | roc seicedelig, roc y felan, classic rock |
Yn cynnwys | Jim Morrison, Robby Krieger, Ray Manzarek, John Densmore |
Gwefan | https://thedoors.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc Americanaidd a ffurfiwyd ym 1965 yn Los Angeles, Califfornia gan y prif leisydd Jim Morrison, allweddellwr Ray Manzarek, drymiwr John Densmore, a'r gitarydd Robby Krieger oedd The Doors. Cânt eu hystyried yn fand dadleuol a dylanwadol, yn bennaf oherwydd geiriau annelwig Morrison a'i bersonoliaeth llwyfan annisgwyl. Ar ôl marwolaeth Morrison ar 3 Gorffennaf, 1971, parhaodd gweddill aelodau'r band fel triawd tan iddynt wahanu ym 1973.[1]
Er mai dim ond am wyth mlynedd parhaodd gyrfa'r band, ystyrir The Doors yn fand cwlt ac yn fand llwyddiannus o safbwynt masnachol. Cânt eu hystyried yn hynod ddylanwadol a gwreiddiol. Yn ôl y RIAA, gwerthodd y band dros 32.5 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau'n unig.[2]
Albymau
[golygu | golygu cod]- The Doors (1967)
- Strange Days (1967)
- Waiting for the Sun (1968)
- The Soft Parade (1969)
- Morrison Hotel (1970)
- L.A. Woman (1971)
- Other Voices (1971)
- Full Circle (1972)
- An American Prayer (1978)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Doors All Music.com Bywgraffiad
- ↑ Top Selling Artists Archifwyd 2007-07-01 yn y Peiriant Wayback RIAA