The Aristocats
Cyfarwyddwr | Wolfgang Reitherman |
---|---|
Cynhyrchydd | Winston Hibler Wolfgang Reitherman |
Cerddoriaeth | George Bruns Robert B. Sherman Richard M. Sherman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Buena Vista Distribution |
Dyddiad rhyddhau | 24 Rhagfyr, 1970 |
Amser rhedeg | 78 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg, Ffrangeg |
Ffilm animeiddiedig gan Disney yw The Aristocats (Cyfieithiad swyddogol Cymraeg:"Y Cathod Crach"[1]) (1970). Mae'n serennu Eva Gabor a Phil Harris, gyda Roddy Maude-Roxby fel Edgar y bwtler, sef dihiryn y stori. Dyma oedd yr ugeinfed ffilm animeiddiedig yng nghyfres Clasuron Animeiddiedig Walt Disney. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori gan Tom McGowan a Tom Rowe, ac mae'n adrodd hanes teulu o gathod pendefig, a sut y mae cath gyffredin yn eu cynorthwyo ar ôl i'r bwtler eu herwgipio er mwyn cael gafael ar gyfoeth eu perchennog, sy'n bwriadu gadael popeth i'w chathod. Yn wreiddiol, rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau gan Buena Vista Distribution ar 11 Rhagfyr, 1970. Mae teitl y ffilm yn chwarae ar y gair aristocrats.
Mae'r ffilm yn nodedig am mai dyma oedd y ffilm olaf i Walt Disney ei hun ei chymeradwyo, oherwydd bu farw ef ar ddiwedd 1966, cyn i'r ffilm gael ei rhyddhau. Derbyniodd adolygiadau caboladwy a bu'n llwyddiant masnachol.
Cymeriadau
- Duchess - Eva Gabor
- Thomas O'Malley - Phil Harris
- Marie - Liz English
- Berlioz - Dean Clark
- Toulouse - Gary Dubin
- Edgar, y bwtler - Roddy Maude-Roxby
- Roquefort, y llygoden - Sterling Holloway
- Scat Cat - Scatman Crothers
- Madame Adelaide Bonfamille - Hermione Baddeley
- Napoleon, y gwaedgi - Pat Buttram
- Lafayette, y ci - George Lindsey
- Frou Frou, y ceffyl - Nancy Kulp
- Georges Hautecourt, y cyfreithiwr - Charles Lane
- Amelia Gabble, gŵydd o Loegr - Monica Evans
- Abigail Gabble, gŵydd o Loegr - Carole Shelley
- Yncl Waldo - Bill Thompson
- Shun Gon, cath o Tseina - Paul Winchell
- Hit Cat, cath o Loegr - Lord Tim Hudson
- Peppo, cath o'r Eidal - Vito Scotti
- Billy Brass, cath o Rwsia - Thurl Ravenscroft
Caneuon
- "The Aristocats" (Les Aristochats, yn Ffrangeg) - Maurice Chevalier
- "Scales and Arpeggios" - Liz English, Gary Dubin, Dean Clark, Robie Lester
- "Thomas O'Malley Cat" - Phil Harris
- "Ev'rybody Wants to Be A Cat" - Scatman Crothers, Phil Harris, Thurl Ravenscroft, Vito Scotti, Paul Winchell