Terens
Terens | |
---|---|
Portread o Terens o'r llawysgrif goliwiedig o'r 9g a elwir Codecs Vaticanus Latinus 3868, a gedwir yn Llyfrgell y Fatican. | |
Ganwyd | 185 CC Carthago |
Bu farw | 159 CC Stymphalos |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | awdur comedi, bardd, llenor, dramodydd |
Adnabyddus am | Y Brodyr, Andria, Eunuchus, Heauton Timorumenos, Hecyra, Phormio |
Arddull | comedi |
Dramodydd Rhufeinig hynafol oedd Terens (Publius Terentius Afer; tua 195 CC – tua 159 CC) sydd yn nodedig am ei gomedïau Lladin, chwech ohonynt sydd yn goroesi: Andria, Hecyra, Heauton Timorumenos, Eunuchus, Phormio, ac Adelphoe. Fel arfer, fe'i ystyrir yn gomedïwr gwychaf yr oes Rufeinig, yn ail i Plautus.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Mae'r ychydig o fanylion sydd gennym am fywyd Terens yn seiliedig ar ddwy ffynhonnell yn bennaf: y prologau i'w ddramâu, yn yr hyn mae'r awdur yn amddiffyn ei hun rhag ei feirniaid; a'r bywgraffiad ohono a briodolir i Suetonius, wedi ei ailysgrifennu gan y gramadegydd a rhethregwr Aelius Donatus o'r 4g yn ei esboniadau o'r chwe chomedi.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Terens yn gaethwas yng Ngharthago, Gogledd Affrica, yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain. Aeth i Rufain dan berchenogaeth y Seneddwr Terentius Lucanus, ac yno cafodd ei addysgu a'i ryddhau o'i gaethwasanaeth.
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Fel dyn rhydd, cafodd Terens ei dderbyn i Gylch Scipio, y garfan Roeg-garol o athronwyr, llenorion, a gwleidyddion a fu dan nawdd y Cadfridog Scipio Aemilianus.
Credir i Terens ysgrifennu ei chwe chomedi yn y cyfnod 166–160 CC. Mae'r hysbysebion cynhyrchu a ddodir ar flaen testunau'r dramâu yn cofnodi manylion o'r perfformiadau cyntaf, ac weithiau cynyrchiadau diweddarach. O'r rheiny, priodolir y dyddiadau canlynol i'r chwe chomedi: Andria (166 CC), Hecyra (165 CC), Heauton Timoroumenos (163&nbso;CC), Eunuchus (161 CC), Phormio (161 CC), Adelphoe (160 CC). Cafwyd ail a thrydydd gynhyrchiad o Hecyra yn 160 CC.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Teithiodd Terens i Wlad Groeg pan oedd yn 35 oed. Bu farw naill ai o salwch yng Ngroeg, neu mewn llongddrylliad ar y fordaith yn ôl i Rufain. Bu'n berchen ar ystâd fechan ar gyrion Rhufain, ar Ffordd Appius. Cafodd ei oroesi gan ei ferch.
Y dramâu
[golygu | golygu cod]Mae pedair o chwe chomedi Terens yn seiliedig ar weithiau'r dramodydd Groeg Menandros, a flodeuai canmlwydd a hanner cyn Terens. Wrth addasu'r esiamplau hynny o'r "Gomedi Newydd" Athenaidd ar gyfer cynulleidfa Rufeinig, aeth Terens ati i ysgrifennu prologau newydd, trosi'r geiriau i Ladin llafar yr oes, a chyflwyno rhywfaint o realaeth i'r straeon.
Hanes derbyniad ei waith
[golygu | golygu cod]Edmygai Terens gan awduron Rhufeinig diweddarach am burdeb ei arddull. Apeliodd ei waith hefyd at glasurwyr a dyneiddwyr y Dadeni Dysg, am iddo gyfuno teimladrwydd coeth (o'i gymharu â Plautus) ag arddull Lladin i'w efelychu, a argymhellwyd dysgu a pherfformio ei ddramâu fel rhan o addysg foesol.
Yn yr 16g a'r 17g byddai gweithiau Terens yn ffurfio sail i'r gomedi foesau, a dylanwadodd ar William Shakespeare a Molière.