Stormy Daniels
Stormy Daniels | |
---|---|
Ffugenw | Stormy Daniels |
Ganwyd | Stephanie Gregory 17 Mawrth 1979 Baton Rouge |
Man preswyl | Forney |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor pornograffig, model, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, stripar, ghost hunter, cyfarwyddwr ffilmiau porograffig |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Full Disclosure |
Taldra | 170 centimetr |
Pwysau | 57 cilogram |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Pat Myne, Brendon Miller, Barrett Blade |
Gwobr/au | AVN Best New Starlet Award, Gwobr Hall of Fame AVN, Penthouse Pet, Gwobr FAME, Gwobr FAME, Gwobr yr AVN, Gwobr XBIZ, Gwobr Hall of Fame XRCO, Gwobr XRCO, Pornhub Award |
Gwefan | https://stormydaniels.rocks/ |
llofnod | |
Mae Stephanie Gregory Clifford (ganwyd 17 Mawrth 1979), sy'n adnabyddus wrth ei henw llwyfan Stormy Daniels yn actores a chyfarwyddwr ffilmiau pornograffig Americanaidd a anwyd yn Baton Rouge, Louisiana.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Daniels ar 17 Mawrth 1979 i Sheila a Bill Gregory, a ysgarodd tua 3 neu 4 blynedd yn ddiweddarach. Magwyd Daniels wedyn gan ei mam.
Mynychodd Ysgol Uwchradd Magnet Scotlandville yn Baton Rouge, gan raddio ym 1997[2]. Ystyriodd fod yn newyddiadurwr.
Yn ôl Daniels magwyd hi mewn "cartref incwm cyfartalog isaf ..." mewn "...cymdogaeth wael iawn"
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Daniels strip-bryfocio pan oedd hi'n 17 mlwydd oed. Wedi ymweld â ffrind mewn clwb stripio cafodd hi ei pherswadio i berfformio "set gwestai". Dechreuodd stripio fel gwaith yn y Gold Club yn Baton Rouge, a daeth yn ddiddanwr nodwedd gydag asiantaeth Continental Theatrical ym mis Medi 2000.
Wrth weithio fel diddanwr nodwedd cyfarfu Daniels a Devon Michaels, a oedd wedi ei chastio i wneud golygfeydd lesbiaidd mewn dwy ffilm arfaethedig - y naill i gwmni Wicked Pictures a'r llall ar gyfer cwmni Sin City - gofynnodd Michaels i Daniels mynd gyda hi.
Ym mis Gorffennaf 2002, cafodd Daniels ei phrif ran gyntaf mewn ffilm bornograffig yn y ffilm Heat i gwmni Wicked Pictures. Ym mis Medi yr un flwyddyn llofnododd gontract cyfyngedig i weithio i gwmni Wicked yn unig. Yn 2004, enillodd wobr y seren newydd gorau yng ngwobrau Adult Video News (AVN). Mae hi wedi cyfarwyddo i gwmni Wicked ers 2004.
Cafodd Daniels ei urddo yn aelod o Oriel Enwogion AVN ar 18 Ionawr 2014, ac fe'i cyflwynwyd i Oriel Enwogion XRCO ar 16 Ebrill, 2014. Enillodd ei waith cyfarwyddo'r flwyddyn honno bedwar ar ddeg enwebiad yng Ngwobrau AVN, gan gynnwys enwebiad ar gyfer y Golwg Rhyw Diogel Gorau ar gyfer ei pherfformiad gyda Brendon Miller yn ffilm François Clousot First Crush.
Gwaith prif lif
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â pherfformio mewn ffilmiau oedolion mae Daniels wedi ymddangos mewn rhaglenni a ffilmiau prif lif hefyd[3], er, mewn rôl diddanwr rhyw pob tro. Ymddangosodd mewn pennod o Real Sex lle mae'n chware ran cystadleuydd yn y 2001 Miss Nude Great Plains Contest. Yn 2007 ymddangosodd yn y rhaglen teledu Dirt, rhaglen am bapur tabloid, lle mae hi'n chwarae rhan artist strip-bryfocio sy'n trio twyllo chwaraewr pêl-fasged er mwyn i'r papur ei ddal mewn sefyllfa o sgandal rhywiol. Ymddangosodd yn fideo'r grŵp Maroon 5 i gyd fynd a'u can "Wake Up Call" yn chwarae ran dawnsiwr polyn. Mae'n ymddangos yn y ffilm The 40-Year-Old Virgin, lle mae'r prif gymeriad (Steve Carell) yn ei gwylio hi'n perfformio mewn ffilm i oedolion ac yn breuddwydio amdani. Ymddangosodd yn y ffilm Knocked Up (2007) fel dawnsiwr arffed.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Er ei bod wedi cefnogi plaid y Democratiaid ar hyd ei oes ceisiodd Daniels cael cefnogaeth i sefyll fel yr ymgeisydd Gweriniaethol i gynrychioli Louisiana yn etholiadau ar gyfer y Senedd yn 2010[4]. Y rheswm dros newid ei lliwiau oedd bod y Seneddwr Gweriniaethol David Vitter wedi ei gysylltu â chwmni oedd yn darparu gwasanaethau putain a bod corff canolog y blaid wedi talu treuliau ar gyfer codi arian mewn clwb nos "thema caethiwed lesbiaidd" yn Los Angeles. Roedd Daniels yn honni ei fod yn amlwg bod y Gweriniaethwyr yn rhannu ei hagwedd hi tuag at ryddid rhywiol. Tynnodd hi allan o'r ras cyn dydd y bleidlais[5].
Perthynas honedig a Donald Trump
[golygu | golygu cod]Ar 12 Ionawr 2018, bu adroddiad yn y Wall Street Journal yn honni bod Daniels wedi dod i gytundeb gyda chyfreithwyr Donald Trump, mis cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2016, i dderbyn $130,000 am beidio â datgelu ei bod wedi cael perthynas rhywiol gyda Trump yn 2006, dim ond blwyddyn ar ôl iddo briodi ei wraig gyfredol, Melania[6]. Etholwyd Trump yn 45 Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ar 25 Mawrth 2018, mewn cyfweliad ar y sioe deledu 60 Minutes fe wnaeth hi ddatgelu ei honiadau am gael rhyw gyda'r Arlywydd a dweud bod hi wedi derbyn yr arian i arwyddo cytundeb i gadw'n ddistaw am y berthynas o herwydd bod hi wedi derbyn bygythiadau yn ei herbyn hi a'i phlentyn pe na bai yn ei harwyddo.
Ar 22 Awst 2018 plediodd twrnai personol Trump, Michael Cohen, yn euog i wyth cyfrif troseddol gan gynnwys troseddau yn ymwneud â thorri cyfraith ariannu etholiadol. Cyfaddefodd, ar lw, iddo gael cyfarwyddyd gan Trump i dalu Stormy Daniels, er mwyn iddi gadw'n ddistaw am eu perthynas ar adeg etholiad arlywyddol 2016.[7]
Ffilmyddiaeth (rhannol)
[golygu | golygu cod]Ffilmiau prif lif
[golygu | golygu cod]- 2005 : The 40-Year-Old Virgin
- 2005 : The Witches of Breastwick
- 2006 : Mind of Mencia (Cyfres deledu)
- 2007 : Knocked Up
- 2007 : Dirt (Cyfres deledu)
Ffilmiau pornograffig
[golygu | golygu cod]- 2000 : Sea Sluts 5
- 2002 : When The Boyz Are Away The Girlz Will Play 7
- 2003 : Island Girls
- 2004 : Lickity Slit
- 2005 : Revenge of the Dildos
- 2006 : Da Vagina Code
- 2007 : Operation: Desert Stormy
- 2007 : Potty Mouth
- 2008 : Bound (II)
- 2009 : Chicks Gone Wild 5
- 2010 : Sex Lies and Spies
- 2011 : Happy Endings
- 2012 : Unfaithful
- 2013 : Beaver Buffet
- 2014 : Dickless
- 2015 : Girls Night
- 2016 : Girls on Top
- 2017 : Hot Cherry Pies 11
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Swyddogol Stormy Daniels (gwefan i oedolion yn unig) My Bio". Stormy Daniels. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-05. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Stormy Daniels IMDb - Biography". IMDb. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "IMDb Stormy Daniels Filmography". Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Porn star Stormy Daniels considering a run against Sen. David Vitter". NOLA.
- ↑ "Huffington Post Stormy Daniels NOT Running For Senate in Louisiana: Porn Star Stays Out Of Politics". 06/15/2010. Cyrchwyd 06/04/2018. Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ Newyddion BBC Why the Stormy Daniels-Donald Trump story matters adalwyd 06/04/2018
- ↑ The Evening Standard 23 Awst 2018 Donald Trump's ex-lawyer Michael Cohen admits paying ‘hush money to Stormy Daniels': could the US President face charges? adalwyd 25 awst 2018