Neidio i'r cynnwys

Reinhold Messner

Oddi ar Wicipedia
Reinhold Messner
GanwydReinhold Andreas Messner Edit this on Wikidata
17 Medi 1944 Edit this on Wikidata
Brixen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, gwleidydd, llenor, dringwr mynyddoedd, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFederation of the Greens Edit this on Wikidata
TadJosef Messner Edit this on Wikidata
MamMaria Messner Edit this on Wikidata
PriodUschi Demeter, Sabine Stehle, Diane Schumacher Edit this on Wikidata
PartnerSabine Stehle, Nena Holguin Edit this on Wikidata
PlantMagdalena Messner, Simon Messner, Anna Juditha Messner, Làyla Messner Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Noddwr, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Gwobr Romy, Courage Award, Lifetime Piolet d'Or, Gwobr Bambi Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://reinhold-messner.de/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Mae Reinhold Andreas Messner (ganed 17 Medi 1944) yn fynyddwr Eidalaidd sy'n cael ei ystyried yn fynyddwr mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth.

Ganed Messner yn Villnöß-Funes yn Ne Tirol yn yr Eidal; er ei fod yn Eidalwr, Almaeneg yw ei iaith gyntaf. Ef oedd y person cyntaf i ddringo bob copa dros 8,000 medr. Diweddodd ei ymgais gyntaf ar un o'r copaon hyn mewn trasiedi. Cyrhaeddodd ef a'i frawd Gunther gopa Nanga Parbat, ond lladdwyd Gunther ar y ffordd i lawr. Collodd Reinhold ei hun saith o fodiau ei draed a thri bys.

Gyda Peter Habeler, ef oedd y cyntaf i ddringo Mynydd Everest heb ddefnyddio ocsigen yn 1978, rhywbeth yr oedd llawer o ddringwyr yn ei ystyried yn amhosibl. Yr un flwyddyn dringodd Nanga Parbat ar ei ben ei hun a heb ocsigen. Yn 1980 ef oedd y cyntaf i ddringo Everest ar ei ben ei hun, eto heb ocsigen.

Rhwng 1999 a 2004 bu'n aelod o'r Senedd Ewropeaidd dros Blaid Werdd yr Eidal.

Y copaon dros 8,000 medr

[golygu | golygu cod]