Neidio i'r cynnwys

Max Bruch

Oddi ar Wicipedia
Max Bruch
GanwydMax Christian Friedrich Bruch Edit this on Wikidata
6 Ionawr 1838 Edit this on Wikidata
Cwlen Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1920 Edit this on Wikidata
Friedenau, Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth mewn Cerddoriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bonn Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Gelf yr Almaen Edit this on Wikidata
Adnabyddus amScottish Fantasy Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni Edit this on Wikidata
PriodClara Tuczek Edit this on Wikidata
PlantMax Felix Bruch Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Pour le Mérite Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr clasurol ac arweinydd cerddorfaol oedd Max Christian Friedrich Bruch a adnabyddir hefyd fel Max Karl August Bruch (6 Ionawr 1838 - 2 Hydref 1920).[1][2]

Cafodd ei eni yng Nghwlen, yr Almaen. Cantores oedd ei fam, Wilhelmine (née Almenräder), a chyfreithiwr oedd ei dad, August Carl Friedrich Bruch, a dfdaeth yn ddiweddarach yn bennaeth Heddlu Cwlen.[3]

Gwaith cerddorol

[golygu | golygu cod]

Cyfansoddodd dros 200 o weithiau, gan gynnwys tri concerto i'r fiolin, sy'n cael ei derbyn fel un o'r gweithiau mwyaf i'r offeryn.

  • Concerto i feiolin rhif 1 (1868)

Bu'n dysgu cerdd am flynyddoedd, a dysgodd sut i arwain cerddorfa ac aeth o un swydd i swydd arall, weithiau'n dysgu, weithiau'n cyfansoddi, yn bennaf yn yr Almaen: Mannheim (1862–1864), Koblenz (1865–1867), Sondershausen, (1867–1870), Berlin (1870–1872), a Bonn, ble treuliodd 1873–78 yn gweithio'n breifat. Ar anterth ei yrfa, treuliodd dair blynedd gyda'r Royal Liverpool Philharmonic (1880–83). Rhwng 1890 a'i ymddeoliad yn 1910 dysgodd ym Mhrifysgol Berlin (Berlin Hochschule für Musik): cyfansoddi serddorol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alfons Ott. "Bruch, Max Karl August". Deutsche Biographie. Cyrchwyd 23 August 2015.
  2. Encyclopædia Britannica
  3. Fifield, Christopher (2005). Max Bruch: His Life and Works. Boydell Press. Cyrchwyd 20 Mai 2015.