Marcus Vipsanius Agrippa
Marcus Vipsanius Agrippa | |
---|---|
Ganwyd | 63 CC Istria |
Bu farw | 12 CC Campania |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | pensaer, llenor, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | llywodraethwr Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, moneyer |
Adnabyddus am | founding of Caesaraugusta |
Tad | Lucius Vipsanius Major |
Mam | Ignota |
Priod | Attica, Claudia Marcella Major, Iulia Maior |
Plant | Vipsania Agrippina, Vipsania Attica, Vipsania Marcella Major, Vipsania Marcella Minor, Gaius Caesar, Julia the Younger, Lucius Caesar, Agrippina yr hynaf, Agrippa Postumus |
Llinach | Julio-Claudian dynasty, Vipsanii Agrippae |
Gwleidydd, cadfridog a phensaer yn amser yr ymerodwr Augustus oedd Marcus Vipsanius Agrippa neu Agrippa (63 CC – 12 CC).
Roedd Agrippa'n gyfaill a mab-yng-nghyfraith i Awgwstws. Gwnaeth enw iddo'i hun fel areithydd ac awdur. Ef oedd pennaeth y llynges pan drechwyd Marcus Antonius a Cleopatra ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a gwobrwywyd ef gan Augustus.
Dan oruchwyliaeth Agrippa y gorffennwyd yr arolwg mawr o diriogaeth yr Ymerodraeth Rufeinig a gychwynwyd gan Iŵl Cesar yn 44 CC. Gyda chymorth y deunydd a ddaeth i'w law felly gwnaeth Agrippa fap crwn o'r Byd. Tua'r flwyddyn 7 CC, gorchmynodd Awgwstws gael copi ohono mewn marmor a osodwyd i fyny mewn teml yng nghanol Rhufain.
Cafodd y gwaith hwnnw ddylanwad mawr, yn arbennig ar yr Itinerarium ymherodrol (math o lawlyfrau daearyddol ar gyfer y fyddin a'r weinyddiaeth Rufeinig yn dangos y ffyrdd o Rufain i'r taleithiau). Yr unig lyfr gan Agrippa sy'n hysbys yw hwnnw y dechreuodd ysgrifennu ar ganlyniadau'r arolwg. Ar ôl marwolaeth Agrippa cafodd y gwaith ei gwblhau dan orchymyn Awgwstws ac fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Chorographia.
Roedd Agrippa yn noddwr amlwg hefyd. Ef a fu'n gyfrifol am godi dwy o'r temlau Rhufeinig mwyaf adnabyddus, sef y Maison Carrée yn Nîmes a'r Pantheon yn Rhufain.