Henry Morton Stanley
Henry Morton Stanley | |
---|---|
Ganwyd | John Rowlands 28 Ionawr 1841 Dinbych |
Bu farw | 10 Mai 1904 Llundain, Richmond Terrace |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, fforiwr, gwleidydd, llenor |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol |
Priod | Dorothy Tennant |
Plant | Denzil Stanley |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Vega Medal, Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Uwch Cordon Urdd Leopold |
llofnod | |
Newyddiadurwr, fforiwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd a ddaeth yn adnabyddus am fforio yng nghanol Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (ganwyd John Rowlands) (28 Ionawr 1841 – 10 Mai 1904).[1][2]
Daeth i sylw’r cyhoedd oherwydd ei ymgyrch i chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr David Livingstone, a honnodd yn ddiweddarach iddo ei gyfarch â'r llinell sydd bellach yn enwog: "Dr Livingstone, I presume?" Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ymgyrch i ddarganfod tarddiad Afon Nîl, gwaith a ymgymerodd fel asiant i'r Brenin Leopold II o Wlad Belg. Galluogodd hyn i ranbarth Basn Congo gael ei feddiannu, ac i Stanley arwain Alldaith Rhyddhad Emin Pasha. Yn 1871 sefydlwyd pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin i ymchwilio i ymddygiad Stanley yn Affrica. Cafodd ei gyhuddo o drais gormodol, dinistrio diangen, gwerthu llafurwyr i gaethwasiaeth, camfanteisio rhywiol ar ferched brodorol ac ysbeilio pentrefi am ifori a chanŵau.[3] Yn seiliedig ar gofnodion a chyfrifon eraill, mae rhai haneswyr yn awgrymu bod llawer o'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan elyn hysbys i Stanley, wedi ei ffugio'n bennaf.[4] Fodd bynnag, roedd Stanley yn sicr yn cysylltu ei hun â masnachwyr caethweision tra'r oedd yn Affrica, ac yn ei ysgrifau ei hun mae'n aml yn mynegi barn hiliol.[5][6] Cyhuddwyd Stanley hefyd o greulondeb diwahân yn erbyn Affricaniaid gan gyfoeswyr, a oedd yn cynnwys dynion a wasanaethodd oddi tano neu a oedd fel arall yn meddu ar wybodaeth uniongyrchol.[7][8] Cafodd ei urddo'n farchog yn 1899.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd ym 1841 yn Ninbych, Sir Ddinbych, Cymru. Roedd ei fam, Elizabeth Parry, yn 18 oed ar adeg ei eni. Amddifadodd ei fam ef pan oedd yn fabi ifanc iawn a thorrodd bob cysylltiad ag ef. Nid oedd Stanley erioed yn adnabod ei dad, a fu farw o fewn ychydig wythnosau i'w eni. Mae rhywfaint o amheuaeth ynghylch ei wir rieni.[9][10]
Rhoddwyd cyfenw ei dad iddo, sef Rowlands, a magwyd ef gan ei dad-cu, Moses Parry a oedd yn gigydd tlawd. Bu'n gofalu am y bachgen nes iddo yntau farw, pan oedd John yn bump oed. Arhosodd y bachgen gyda chefndryd a nithoedd am gyfnod byr, ond yn y pen draw fe’i hanfonwyd i Wyrcws Undeb y Tlodion Llanelwy. Arweiniodd y gorlenwi a'r diffyg goruchwyliaeth ato'n cael ei gam-drin yn aml gan fechgyn hŷn.[11]
Ymfudodd Rowlands i'r Unol Daleithiau ym 1859 yn 18 oed. Cyrhaeddodd New Orleans ac, yn ôl ei ddatganiadau ei hun, daeth yn ffrindiau ar ddamwain gyda Henry Hope Stanley, masnachwr cyfoethog. Allan o edmygedd, cymerodd John enw Stanley.[12]
Roedd yn anfodlon ymuno â Rhyfel Cartref America, ond ymrestrodd yn gyntaf gyda 6ed Catrawd Troedfilwyr Arkansas ym Myddin y Taleithiau Cydffederal ac ymladd ym Mrwydr Shiloh ym 1862.[13][14] Ar ôl cael ei gymryd yn garcharor yn Shiloh, ymunodd â Byddin yr Undeb ar 4 Mehefin 1862 ond cafodd ei ryddhau 18 diwrnod yn ddiweddarach oherwydd salwch difrifol. Ar ôl gwella, gwasanaethodd ar sawl llong fasnach cyn ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1864. Daeth yn geidwad cofnodion ar fwrdd yr USS Minnesota, ac arweiniodd hynny ato'n troi ei law at newyddiaduraeth ar ei liwt ei hun. Neidiodd Stanley a chydweithiwr iau ar long ar 10 Chwefror 1865 oedd yn ymadael â Portsmouth, New Hampshire. Bwriad y ddau oedd chwilio am fwy o anturiaethau. Mae’n ddigon posib mai Stanley oedd yr unig ddyn i wasanaethu yn y Fyddin Cydffederal, Byddin yr Undeb a Llynges yr Undeb.[13][15]
Newyddiadurwr
[golygu | golygu cod]Yn dilyn y Rhyfel Cartref, daeth Stanley yn newyddiadurwr yn y cyfnod pan oedd ehangu ffiniau yn digwydd yng Ngorllewin America. Yna trefnodd alldaith i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond daeth y daith i ben yn drychinebus pan gafodd ei garcharu. Yn y pen draw, siaradodd ei ffordd allan o'r carchar a derbyniodd iawndal am offer alldaith a ddifrodwyd.[13]
Yn 1867, cafodd cennad Prydeinig a rhai eraill eu cymryd yn wystlon gan Ymerawdwr Ethiopia, Tewodros II, ac anfonwyd llu i ryddhau’r gwystlon. Aeth Stanley gyda'r llu hwnnw fel gohebydd arbennig papur newydd y New York Herald. Adroddiad Stanley ar Frwydr Magdala ym 1868 oedd y cyntaf i gael ei gyhoeddi. Yn dilyn hynny, cafodd ei aseinio i adrodd ar Chwyldro Gogoneddus Sbaen ym 1868.
Chwilio am David Livingstone
[golygu | golygu cod]Daeth Stanley yn enwog oherwydd iddo ddod o hyd i'r cenhadwr David Livingstone, a oedd ar goll yn Affrica yn 1871. Yn ôl yr hanes, pan gyfarfu'r cenhadwr coll llefarodd y geiriau enwog "Dr Livingstone, I presume?". Roedd y tri llyfr a ysgrifennodd am ei daith yn Affrica i ddarganfod Livingstone ymhlith y llyfrau a werthodd orau yn y cyfnod.[5]
Y Congo
[golygu | golygu cod]Ym 1874, ariannodd y New York Herald, a'r Daily Telegraph ym Mhrydain, Stanley ar alldaith arall i Affrica. Ei amcan uchelgeisiol oedd cwblhau'r gwaith o archwilio a mapio Llynnoedd Mawr ac afonydd Canol Affrica, ac yn y broses amgylchynu Llynnoedd Victoria a Tanganyica a lleoli tarddiad yr afon Nîl. Roedd yr alldaith yn gostus, gyda llawer o griw Stanley yn colli eu bywydau yn y tir anodd. Mae rhestrau casglu a dyddiadur Stanley (12 Tachwedd 1874) yn dangos iddo ddechrau gyda 228 o bobl a chyrraedd Boma gyda 114 o oroeswyr. Fodd bynnag, cwblhaodd Stanley ei genhadaeth gan ennill enw da fel un o archwilwyr mwyaf llwyddiannus y 19eg ganrif.[16]
Daeth y Brenin Leopold II, y brenin uchelgeisiol o Wlad Belg, at Stanley a chynigiodd gyflog iddo er mwyn datblygu canolfannau masnachu ar hyd y Congo. Yn ddiweddarach, dywedodd y Brenin yn glir mai ei gynllun oedd creu gwladwriaeth newydd a fyddai’n cael ei gweinyddu gan Wlad Belg. Roedd hefyd yn glir na fyddai unrhyw bŵer yn y wladwriaeth newydd hon yn cael ei roi i'r boblogaeth leol.[17] Siomwyd Stanley pan gafodd wybod am wir uchelgais y Brenin.[18]
Rhoddodd y Brenin Leopold gyfarwyddyd i Stanley wneud bargeinion gyda phenaethiaid lleol oedd yn rhoi rheolaeth lawn i Leopold ar y tir, ond ni ddilynodd Stanley y cyfarwyddiadau hyn. Yn lle hynny rhoddodd delerau llawer gwell i benaethiaid lleol gan gynnwys cytundebau rhentu, a fyddai’n cael eu talu ar ffurf nwyddau. Roedd Leopold yn anhapus iawn gyda’r trefniant hwn a symudodd Stanley draw o’r gwaith.[11]
Fodd bynnag, bu Stanley yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu masnach ar hyd y Congo.
Ymgyrch Ryddhau Emin Pasha
[golygu | golygu cod]Ym 1886, arweiniodd Stanley Alldaith Rhyddhad Emin Pasha i "achub" Emin Pasha, llywodraethwr Equatoria yn ne'r Swdan. Mynnodd y Brenin Leopold II fod Stanley yn cymryd y llwybr hirach ar hyd Afon Congo, gan obeithio cipio mwy o diriogaeth ac efallai hyd yn oed Equatoria.[19] Ar ôl caledi aruthrol a nifer yn colli eu bywydau, cyfarfu Stanley ag Emin ym 1888, llwyddodd i fapio Mynyddoedd Ruwenzori a Llyn Edward, ac achub Emin a'i ddilynwyr oedd wedi goroesi, ar ddiwedd 1890. Ond fe wnaeth yr alldaith hon bardduo enw Stanley oherwydd ymddygiad yr Ewropeaid eraill - boneddigion Prydain a swyddogion y fyddin. Cafodd Uwchgapten y Fyddin Edmund Musgrave Barttelot ei saethu gan gludwr ar ôl ymddwyn gyda chreulondeb eithafol. Prynodd James Sligo Jameson, etifedd y gwneuthurwr wisgi Gwyddelig Jameson, ferch 11 oed a'i chynnig i ganibaliaid er mwyn dogfennu a braslunio sut fyddai’n cael ei choginio a'i bwyta. Dim ond pan fu Jameson farw o’r dwymyn y darganfu Stanley hyn.[11]
Mae'r cofnodion yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, Llundain, yn cadarnhau bod Stanley yn ymwybodol iawn bod atodi ac ychwanegu tiriogaeth newydd yn rhan o'r rheswm dros yr alldaith. Mae hyn oherwydd bod nifer o gytundebau wedi'u curadu yn y cofnodion (ac a gasglwyd gan Stanley ei hun o'r hyn sydd heddiw yn Wganda yn ystod Alldaith Emin Pasha). Yn ôl pob golwg, mae'r cytundebau hyn yn dangos bod Prydain wedi rhoi amddiffyniad i nifer o benaethiaid Affrica. Ymhlith y rhain roedd nifer sydd bellach wedi cael eu diystyru fel rhai twyllodrus, er enghraifft, cytundeb rhif 56, y cytundeb honedig a gytunwyd rhwng Stanley a phobl "Mazamboni, Katto, a Kalenge". Drwy arwyddo, roedd y bobl hyn wedi trosglwyddo i Stanley, "Hawl Llywodraethol Sofran dros ein gwlad am byth o ystyried y gwerth a dderbyniwyd ac am yr amddiffyniad y mae wedi'i roi inni a'n Cymdogion yn erbyn KabbaRega a'i Warasura."[20]
Blynyddoedd olaf a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar ôl dychwelyd i Ewrop, priododd Stanley â'r artist o Gymru, Dorothy Tennant, a mabwysiadodd y ddau blentyn o'r enw Denzil. Ymunodd Stanley â'r Senedd fel aelod Unoliaethol Rhyddfrydol dros Ogledd Lambeth, gan wasanaethu rhwng 1895 a 1900. Urddwyd ef yn Syr Henry Morton Stanley pan gafodd ei wneud yn Farchog Croes Fawreddog Urdd y Baddon (Knight Grand Cross of the Order of the Bath) fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd 1899, fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i'r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica. Yn 1890, cafodd ei anrhydeddu gan y Brenin Leopold II gyda’r teitl Cordon Mawreddog Urdd Leopold.
Bu farw Stanley yn ei gartref yn 2 Richmond Terrace, Whitehall, Llundain ar 10 Mai 1904. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys San Mihangel a'r Holl Angylion ym mhentref Pirbright, Surrey.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau Stanley
[golygu | golygu cod]- How I found Livingstone (1872)
- Through the Dark Continent (1878)
- In Darkest Africa (1890)
- Autobiography (1909)
Llyfrau amdano
[golygu | golygu cod]- Adar Brith; cyfeirir ato yn y llyfr hwn a gyhoeddwyd yn 2005.
- Thomas Gee (dienw), Henry Moreton Stanley (1890)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC - History - Historic Figures: Henry Stanley (1841 - 1904)". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Henry Morton Stanley | Biography, Books, Quotes, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Stanley doesn't merit a statue | Daniel Waweru". the Guardian (yn Saesneg). 2010-08-31. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "A good man in Africa? review | Non-fiction book reviews - Times Online". web.archive.org. 2011-05-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-17. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 5.0 5.1 Stanley, Henry Morton (1872). How I Found Livingstone: Travels, Adventures and Discoveries in Central Africa: Including an Account of Four Months' Residence with Dr. Livingstone (yn Saesneg). Scribner, Armstrong & Company.
- ↑ Driver, Felix (1991-11-01). "HENRY MORTON STANLEY AND HIS CRITICS: GEOGRAPHY, EXPLORATION AND EMPIRE" (yn en). Past & Present 133 (1): 134–166. doi:10.1093/past/133.1.134. ISSN 0031-2746. https://academic.oup.com/past/article/133/1/134/1545461.
- ↑ Stairs, William G. (1998). African exploits : the diaries of William Stairs, 1887-1892. MacLaren, Roy, 1934-. Montreal [Que.]: McGill-Queen's University Press. ISBN 978-0-7735-6671-2. OCLC 244766184.
- ↑ Troup, John Rose (1890). With Stanley's rear column: With illustr. [Henry Morton Stanley] (yn Saesneg). Chapman and Hall.
- ↑ Stanley, Henry Morton (1909). The Autobiography of Sir Henry Morton Stanley ... (yn Saesneg). Houghton Mifflin. t. 4.
- ↑ "Henry Morton Stanley". Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Jeal, Tim (2007). Stanley: The Impossible Life of Africa's Greatest Explorer (yn Saesneg). Yale University Press. ISBN 978-0-300-12625-9.
- ↑ "The Making Of An American Lion | AMERICAN HERITAGE". www.americanheritage.com. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Gallop, Alan (2004-04-27). Mr. Stanley, I Presume?: The Life and Explorations of Henry Morton Stanley (yn Saesneg). History Press. ISBN 978-0-7524-9494-4.
- ↑ "American Experience | Ulysses S. Grant | Primary Sources". www.shoppbs.pbs.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-02. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Brown, Dee, 1908-2002,. The Galvanized Yankees. Frank and Virginia Williams Collection of Lincolniana (Mississippi State University. Libraries). Urbana. ISBN 0-8032-6075-X. OCLC 189234.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Jeal, Tim (2011-11-01). Explorers of the Nile: The Triumph and Tragedy of a Great Victorian Adventure (yn Saesneg). Yale University Press. ISBN 978-0-300-14935-7.
- ↑ Gondola, Ch Didier (2002). The History of Congo (yn Saesneg). Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0-313-31696-8.
- ↑ Stanley, Henry Morton (1885). The Congo and the Founding of Its Free State: A Story of Work and Exploration (yn Saesneg). Harper & Brothers. t. 20.
- ↑ Stanley, Henry Morton (1890). In Darkest Africa; Or, The Quest, Rescue, and Retreat of Emin, Governor of Equatoria (yn Saesneg). Scribner.
- ↑ Kew (BNA) FO 2/139 (Treaty number 56, undated). Yr Archif Cenedlaethol.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- HMStanley-Denbigh.com Archifwyd 2019-07-15 yn y Peiriant Wayback - gwefan sy'n beirniadu Stanley ac imperialaeth.