Hendrik Frensch Verwoerd
Hendrik Frensch Verwoerd | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1901 Amsterdam |
Bu farw | 6 Medi 1966 Tref y Penrhyn |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, aelod o gyfadran |
Swydd | Prif Weinidog De Affrica |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Genedlaethol |
Priod | Betsie Verwoerd |
llofnod | |
Gwleidydd o Dde Affrica a fu'n Brif Weinidog y wlad o 1958 hyd 1966 oedd Hendrik Frensch Verwoerd (8 Medi 1901 – 6 Medi 1966).
Ganed ef yn Amsterdam, ond ymfudodd i Dde Affrica gyda'i rieni pan oedd yn ddwy oed. Astudiodd yn Mhrifysgolion Hamburg, Leipzig a Berlin. O 1937 hyd 1943 bu'n olygydd y newyddiadur Die Transvaler. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cefnogai yr Almaen.
Yn 1950 daeth yn weinidog yn llywodraeth Daniel François Malan, ac yn 1958 olynodd Johannes Strijdom fel Prif Weinidog. Roedd yn gefnogwr cryf i Apartheid. Yn 1961 troes Verwoerd Dde Affrica yn weriniaeth a rhoddodd y gorau i fod yn aelod o'r Gymanwlad. Ar 6 Medi 1966, roedd Vewoerd newydd gymeryd ei sedd yn y senedd pan drywanwyd ef gan negesydd seneddol o'r enw Dimitri Tsafendas, a bu farw yn fuan wedyn.