Neidio i'r cynnwys

Dorestad

Oddi ar Wicipedia

Yn yr Oesoedd Canol cynnar, yr oedd Dorestad yn un o ddinasoedd pwysicaf a mwyaf llewyrchus Yr Iseldiroedd.

Safai ar lannau Afon Rhein, i'r de o ddinas Utrecht, ger tref bresennol Wijk bij Duurstede, ar safle hen gaer Rufeinig. Yn y cyfnod rhwng 600 ac 850, roedd y Ffrisiaid a'r Ffrancod yn ymladd am feddiant Dorestad yn aml.

Oherwydd ei llwyddiant fel canolfan fasnachol, tynnai Dorestad sylw'r Llychlynwyr, a ymosodai'n rheolaidd ar y ddinas yn y 9g (834, 835, 844, 857 a 873). Mae lle i gredu fod hyd at 7000 o Vikings wedi cymryd rhan yn y cyrch cyntaf yn 834, a arweinwyd gan Rurik. Daeth Dorestad yn brifddinas teyrnas Lychlynaidd Dorestad (850-885) am gyfnod byr, ond collodd ei bwysigrwydd ar ôl i argae gael ei chodi ar y Rhein yn 863.