Cyffur generig
Enghraifft o: | cyffur |
---|---|
Math | meddyginiaeth |
Y gwrthwyneb | proprietary drug |
Yn cynnwys | generic drug in Japan |
Cyffur generig yw cyffur sy'n defnyddio'r un cynhwysion gweithgar a chyffur arall, sydd eisoes ar y farchnad[1].
Mae cyffur generig yn gyffur fferyllol sy'n cyfateb i gyffur sy'n cael ei werthu dan enw brand mewn dos, cryfder, llwybr gweinyddu, ansawdd, perfformiad a defnydd, ond nid yw'n cynnwys enw'r brand. Gall nodweddion, nad ydynt yn hanfodol, y cyffur generig bod yn wahanol i'r nodweddion gwreiddiol megis lliw, blas a phecynnu.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cynhyrchion generig ar gael ar ôl i'r amddiffyniadau patent a roddir i ddatblygwr gwreiddiol cyffur ddod i ben.
Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae patentau'n rhoi 20 mlynedd o amddiffyniad. Fodd bynnag, mewn llawer o wledydd a rhanbarthau, megis yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, gall cwmni cael hyd at bum mlynedd o amddiffyniad ychwanegol ("adferiad tymor patent") os yw gweithgynhyrchwyr yn bodloni nodau penodol, megis cynnal treialon clinigol ar gyfer cleifion pediatrig.
Ers 1953 Sefydliad Iechyd y Byd sydd wedi bod yn gyfrifol am gadw Rhestr Enwau Rhyngwladol Heb Berchennog swyddogol i'w defnyddio ar gyfer gyffur fferyllol neu gynhwysyn gweithredol (yr INN). Gan amlaf bydd enw generig cyffur yn y DU yr un a'i enw ar yr INN.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cyffuriau generig yn rhatach i'w prynu na'r rhai sy'n cael eu gwerthu o dan enw brand.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Generic Drugs adalwyd 20 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |