22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau
22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yw'r enw a roddir i gyfyngiad o ran y nifer o dymhorau (ac amser) y gall Arlywydd yr Unol Daleithiau fod yn ei swydd. Cyngres yr Unol Daleithiau a gadarnhaodd y Gwelliant a hynny ar 21 Mawrth 1947 a daeth i rym ar 27 Chwefror 1951.
Testun y Gwelliant
[golygu | golygu cod]Section 1. No person shall be elected to the office of the President more than twice, and no person who has held the office of President, or acted as President, for more than two years of a term to which some other person was elected President shall be elected to the office of the President more than once. But this article shall not apply to any person holding the office of President when this article was proposed by the Congress, and shall not prevent any person who Mai be holding the office of President, or acting as President, during the term within which this article becomes operative from holding the office of President or acting as President during the remainder of such term.
Section 2. This article shall be inoperative unless it shall have been ratified as an amendment to the Constitution by the legislatures of three-fourths of the several states within seven years from the date of its submission to the states by the Congress.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Fel George Washington, dewisiodd Thomas Jefferson beidio ac ymgeisio am ei drydydd tymor fel Arlywydd, gan ddweud yn 1807: "if some termination to the services of the chief Magistrate be not fixed by the Constitution, or supplied by practice, his office, nominally four years, will in fact become for life."[1] Cadwodd y ddau arlywydd nesaf hefyd ( James Madison a James Monroe) at y cyfyngiad, ac eto, yn wirfoddol yn hytrach nag yn statudol.
Ceisiodd Ulysses S. Grant fynd am ei drydydd tymor, ond enwebwyd James Garfield gan ei blaid. Felly hefyd Grover Cleveland yn 1896 ond collodd ei gefnogaeth i William Jennings Bryan. Methodd Theodore Roosevelt yntau, gan golli i Woodrow Wilson a geisiodd y trydydd tymor, ond eto - yn aflwyddiannus.[2]
Ond bu Franklin D. Roosevelt yn llwyddiannus; yr Arlywydd cyntaf i dreulio tri thymor yn ei swydd a'r cyntaf i dreulio mwy nag wyth mlynedd. Y rheswm pam y gwnaeth hyn oedd yr Ail Ryfel Byd ac yn dilyn y Rhyfel yn Etholiad 1944 enillodd ei bedwerydd tymor pan drechodd Thomas E. Dewey. Bu Roosevelt farw yn ei swyd ar 12 Ebrill 1945. Roedd wedi treulio 12 blynedd a 39 diwrnod yn ei swydd.
Tua diwedd 1944 cyhoeddodd Thomas Dewey y byddai'n croesawu Gwelliant a fyddai'n cyfyngu nifer y tymhorau i ddau. Dywedodd fod mwy na hyn yn "peryglu ein rhyddid".[3] Cefnogwyd y Gwelliant gan y Gweriniaethwyr ym Mawrth 1947;[4] ac fe'i cynlluniwyd gan Lefarydd y Tŷ, Joseph William Martin, Jr. a Llywydd dros dro'r Senedd, William F. Knowland.[5] Cymerodd bedair mlynedd i gywain digon o daleithiau i basio'r Gwelliant a'i fabwysiadu.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Datganiad Thomas Jefferson: Reply to the Legislature of Vermont, 1807. ME 16:293
- ↑ Saunders, Robert M. (1998). In Search of Woodrow Wilson: Beliefs and Behavior. Greenwood Publishing Group. ISBN 9780313305207.
- ↑ David M. Jordan, FDR, Dewey, and the Election of 1944 (Bloomington: Indiana University Press, 2011, t. 290) ISBN 978-0-253-35683-3
- ↑ 4.0 4.1 "FDR's third-term decision and the 22nd amendment". National Constitution Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-02. Cyrchwyd 29 Mehefin 2014.
- ↑ "22nd Amendment". Stanley L. Klos. Cyrchwyd June 30, 2014.