Matt Lucas
actor a aned yn Paddington yn 1974
Mae Matthew Richard Lucas (ganed 5 Mawrth 1974) yn ddigrifwr ac yn actor Seisnig. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei waith cydnabyddedig gyda David Walliams yn y rhaglen sgets deledu Little Britain a'i gyfres o gyfweliadau sbŵf Rock Profile, yn ogystal â'i bortread swreal o'r babi 'George Dawes', a gadwai'r sgôr ar raglen gomedi Reeves a Mortimer Shooting Stars.
Matt Lucas | |
---|---|
Ffugenw | Andy Pipkin |
Ganwyd | Matthew Richard Lucas 5 Mawrth 1974 Paddington |
Label recordio | Charly Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor teledu, actor, digrifwr, sgriptiwr, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, canwr |
Adnabyddus am | The Look of Love, Wonka |
Taldra | 1.69 metr |
Priod | Kevin McGee |
Gwobr/au | Uwch Ddoethor, International Emmy Award for best comedy series |
Ym Mai 2007, rhoddwyd Lucas ar safle rhif 8 ar restr o'r cant o bobl hoyw a lesbiaid mwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan y papurau newydd The Independent a The Daily Mail. Roedd y rhestr yn cynnwys pobl LHDT o feysydd megis adloniant, busnes, gwleidyddiaeth a gwyddoniaeth.