Richarlison de Andrade
Richarlison de Andrade | |
---|---|
Ganwyd | Richarlison de Andrade 10 Mai 1997 Nova Venécia |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 184 centimetr |
Pwysau | 71 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | América Futebol Clube, Fluminense F.C., Watford F.C., Everton F.C., Tottenham Hotspur F.C., Brazil national under-20 football team, Brazil national under-23 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Brasil |
Safle | blaenwr |
Gwlad chwaraeon | Brasil |
Mae Richarlison de Andrade neu, fel arfer, Richarlison (ganwyd yn Brasil, 10 Mai 1997) yn pêl-droediwr sydd yn chwarae i Everton.[1][2]
Enillodd ei gap cyntaf i uwch-dîm Brasil yn 2018 - yn erbyn yr Unol Daleithiau America, a phedwrd diwrnod wedyn, sgoriodd ei gôl cyntaf yn erbyn El Salvador.[3]
Gyrfa Clwb
[golygu | golygu cod]Roedd Richarlison yn chwarae i Fluminese yn Brasil ac roedd yn dangos llawer o addewid gan chwarae tymor llawn yn Uwch Gynghrair Brasil gan sgorio 8 gôl yn 12 gêm. Yn Awst 2017 arwyddodd Watford Richarlison am ffi o £12 miliwn. Rheolwr Watford ar yr pryd oedd Marco Silva a dyfynnodd Richarlison fod oedd Silva fel tad iddo, gan ddod yr holl ffordd allan i Frasil er mwyn ei arwyddo. Chwaraeodd Richarlison pob gem i Watford yn yr Uwch Gynghrair yn 2017-18 gan sgorio pum gôl.
Yng Ngorffennaf 2018, symudodd Richarlison i Everton am ffi o £35 miliwn - gan ailgyfuno'r chwaraewr hefo'i cyn-rheolwr Marco Silva. Mae o'n gwisgo rhif 30 ar gefn ei grys. Sgoriodd ei gôl cyntaf i Everton yn erbyn Wolverhampton Wanderers mewn gem cydradd o 2-2. Sgoriodd Richarlison y ddwy gôl i Everton yn y gêm yma.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Richarlison wedi'i llofnodi hefo Nike am cyfnod o dri mlynedd yn 2015. Er bod o'n chwarae yn Lloegr dydy o ddim yn siarad Saesneg ac felly mae o wedi dechrau dysgu Saesneg ac mae'n cael tri gwers pob wythnos. Mae'n chwaraewr frwd o'r gem Counter-Strike ac mae'n chwarae'r gem hefo'i ffrindiau Brasilaidd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Updated squads for 2017/18 Premier League confirmed". Premier League. 2 Chwefror 2018. Cyrchwyd 17 Chwefror 2018.
- ↑ "Richarlison: Overview". Premier League. Cyrchwyd 6 Hydref 2018.
- ↑ "Cria do Real Noroeste brilha na Série B e desperta interesse de gigantes" [Real Noroeste's youth graduate shines in Série B and raises interest from the biggest ones] (yn Portiwgaleg). Gazeta Esportiva. 10 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2015.