Glyn Berry
Gwedd
Glyn Berry | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1946 y Barri |
Bu farw | 15 Ionawr 2006 Kandahar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd |
Diplomydd o Ganada oedd Glyn Berry (14 Mehefin 1946 – 15 Ionawr 2006). Bu farw mewn ffrwydrad a achoswyd gan fom mewn car yn agos i Kandahar, Affganistan. Lladdwyd dau arall yn yr un ymosodiad a deg o bobl yn cael eu hanafu.
Cafodd ei eni a'i fagu yn y Barri, cyn symud i Ganada yn ei ugeiniau. Ymunodd ag Adran Materion Tramor Canada yn 1977. Roedd wedi gwasanaethu fel diplomydd Canadaidd yn Oslo, Havana, Llundain, Islamabad ac yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Yn Affganistan roedd wedi cael ei benodi fel cyfarwyddwr gwleidyddol i'r tîm ailadeiladu taleithiol ar gyfer Adran Materion Tramor Canada yn ardal Kandahar. Fe'i claddwyd yng Nghymru.
Categorïau:
- Genedigaethau 1946
- Marwolaethau 2006
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Dalhousie
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol McMaster
- Diplomyddion yr 20fed ganrif o Ganada
- Diplomyddion yr 21ain ganrif o Ganada
- Llofruddiaethau'r 2000au yn Affganistan
- Pobl o'r Barri
- Pobl fu farw yn Affganistan
- Ymfudwyr o Gymru i Ganada