Neidio i'r cynnwys

Moryd Forth

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:59, 9 Gorffennaf 2019 gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau)
Fferi Ro-Pax Blue Star 1 yn mynd tan y bont ar y ffordd o Rosyth i Zeebrugge.
Map o'r Firth of Forth

Moryd neu aber agored Afon Forth ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Moryd Forth (Gaeleg, Linne Foirthe; Sgoteg Firth o Forth, Saesneg Firth of Forth; Cymraeg Canol, Moryd Gweryd ac 'Aber Gweryd'[1]; Lladin Bodotria). Saif Fife ar yr ochr ogleddol a Gorllewin Lothian, dinas Caeredin a Dwyrain Lothian ar yr ochr ddeheuol. Mae'r llanw yn cyrraedd cyn belled a Stirling, ond fel rheol ystyrir fod y firth yn gorffen gwer Pont Kincardine. Yn ddaearegol, ffiord yw Moryd Gweryd, gan iddi gael ei naddu gan rewlif.

Ceir nifer o drefi ar hyd lannau'r foryd, gyda diwydiannau pwysig, yn cynnwys Grangemouth, Leith, Methil, Inverkeithing, Prestonpans a Rosyth. Croesir y foryd gan bont i'r rheilffordd a phont enwof i'r briffordd, a disgwylir i bont ychwanegol agor yn 2008. Ceir nifer o ynysoedd yn y foryd; yr enwocaf yw Bass Rock.

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, t. 535.