Neidio i'r cynnwys

OpenOffice.org: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (Robot: Yn newid simple:OpenOffice.org yn simple:OpenOffice
Llinell 104: Llinell 104:
[[sh:OpenOffice.org]]
[[sh:OpenOffice.org]]
[[si:OpenOffice.org]]
[[si:OpenOffice.org]]
[[simple:OpenOffice.org]]
[[simple:OpenOffice]]
[[sk:OpenOffice.org]]
[[sk:OpenOffice.org]]
[[sl:OpenOffice.org]]
[[sl:OpenOffice.org]]

Fersiwn yn ôl 01:34, 25 Chwefror 2013

Ciplun o'r dudalen dewis, neu'r cynnwys, a gynigir i'r defnyddiwr .

Mae OpenOffice.org (OO.o neu OOo), (a adnabyddir fel arfer fel: OpenOffice) yn deulu o feddalwedd cyfrifiadurol tebyg iawn i Microsoft Office - a ddosberthir am ddim, ac sydd ar gael yn Gymraeg ac mae estyniad gwirydd iaith Cymraeg ar gael hefyd.[1][2] Mae'n draws-lwyfanol hefyd ac yn cyd-fynd gyda Fformat OpenDocument (OpenDocument Format (neu ODF)) yr ISO/IEC.

Mae'r teulu hwn o feddalwedd ar gael mewn oddeutu 120 o ieithoedd erbyn hyn.[3] Y teitl gwreiddiol oedd 'StarOffice', a ddatblygwyd gan "StarDivision" ond a werthwyd i Sun Microsystems yn Awst 1999. Cafodd y 'source code' ei ryddhau yng Ngorffennaf 2000 gyda'r nod o gipio cyfran o farchnad 'Microsoft Office' drwy ei gynnig am ddim i bawb.

Y gwahanol raglenni cynwysedig

Mae OpenOffice yn gasgliad o wahanol raglenni sy'n cydweithio'n agos gyda'i gilydd i ddarparu'r nodweddion sydd i'w cael mewn casgliad arferol o feddalwedd swyddfa:

Modiwl Nodiadau
Writer Prosesydd geiriau tebyg i Microsoft Word a WordPerfect. Gall allforio ffeiliau Portable Document Format (PDF), a gall weithio fel golygydd WYSIWYG syml ar gyfer creu a golygu gwefannau.
Calc Taenlen tebyg i Microsoft Excel a Lotus 1-2-3. Gall Calc allforio taenlenni i'r fformat PDF.
Impress Rhaglen gyflwyno debyg i Microsoft PowerPoint ac Apple Keynote. Gall Impress allforio cyflwyniadau i ffeiliau (SWF) Adobe Flash, gan ganiatáu iddynt gael eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur gyda chwaraeydd Flash. Mae ganddo'r gallu i greu ffeiliau PDF, a'r gallu i ddarllen fformat .ppt Microsoft PowerPoint. Nid oes gan Impress ddewis o batrymluniau parod, ond mae modd lawr lwytho rhai am ddim.[4][5]
Base System rheoli cronfa ddata tebyg i Microsoft Access.
Draw Golygydd graffeg fector nid annhebyg i fersiynau cynnar o CorelDRAW a Microsoft Visio. Mae ganddo hefyd nodweddion tebyg i feddalwedd Cyhoeddi pen bwrdd fel Scribus a Microsoft Publisher. Gall allforio i fformat PDF.
Math Teclyn ar gyfer creu a golygu fformiwla mathemategol, tebyg i Microsoft Equation Editor. Gellir ei fewnosod tu mewn i ddogfennau OpenOffice eraill. Mae'n cefnogi sawl ffont ac yn gallu allforio o fformat PDF.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Open Office Cymraeg
  2. Gwirydd Sillafu Cymraeg gan Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor
  3. "Language localization status". OpenOffice Language Localization Project. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.
  4. "Presentation templates at OpenOffice.org". documentation.openoffice.org. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.
  5. "Impress Templates — User/Template". documentation.openoffice.org. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.