Stonewall Jackson
Cadfridog ar ochr y De Cydffederal yn Rhyfel Cartref America oedd Thomas Jonathan Jackson, mwy adnabyddus fel "Stonewall" Jackson (21 Ionawr 1824 - 10 Mai 1863).
Stonewall Jackson | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Jonathan Jackson 21 Ionawr 1824 Clarksburg |
Bu farw | 10 Mai 1863 Guinea |
Man preswyl | Jackson's Mill |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, arweinydd milwrol, person milwrol |
Mam | Julia Neale Jackson |
Priod | Elinor Jackson, Mary Anna Jackson |
Perthnasau | William Lowther Jackson |
llofnod | |
Ganed Jackson yn Clarksburg, yn yr hyn sy'n awr yn dalaith Gorllewin Virginia. Bu farw ei dad o'r teiffoid ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ail-briododd ei fam yn 1830 ond bu farw y flwyddyn wedyn.
Aeth i academi filwrol West Point, gan raddio yn 1846. Ymladdodd yn y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico o 1846 hyd 1848, gan gyfarfod Robert E. Lee am y tro cyntaf. Gadawodd y fyddin yn 1851, a daeth yn athro yn Ysgol Filwrol Virginia. Priododd yn 1853, ond bu farw ei wraig ar enedigaeth plentyn y flwyddyn wedyn; ail-briododd yn 1857.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref, daeth Jackson i sylw yn fuan. Enillodd ei lysenw "Stonewall" ym Mrwydr Gyntaf Bull Run; roedd ei filwyr ef yn dal eu tir mor dda nes i gadfridog arall, Barnard Elliott Bee, Jr., weiddi ar ei filwyr ei hum: "There is Jackson standing like a stone wall. Let us determine to die here, and we will conquer. Follow me.".
Enillodd Jackson nifer o fuddugoliaethau dros fyddinoedd mwy niferus yr Undeb, yn enwedig yn ymgyrch Dyffryn Shenandoah. Roedd yn enwog am ei allu i symud yn gyflym a tharo yn annisgwyl. Cydweithredai yn effeithiol dros ben â Lee. Wedi buddugoliaeth ym Mrwydr Chancellorsville ar 2 Mai 1863, saethwyd ef mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun wrth iddo ddychwelyd at y fyddin yn y gwyll. Bu farw ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.